Cronfa Buddsoddi i Gymru
Cyllid Ecwiti hyd at £5 miliwn
IFW - Cyllid Ecwiti Foresight
Ar gyfer busnesau â photensial ar gyfer twf uchel
Gall cyllid ecwiti fod yn neilltuol o bwysig i gwmnïau newydd ac arloesol â photensial twf uchel gan y gall ddarparu cefnogaeth dymor hir i gyllido twf busnes yr holl ffordd i refeniw ac elw.
Gallai buddsoddiad yn seiliedig ar ecwiti fod yn iawn os ydych yn rhedeg busnes â chynlluniau uchelgeisiol, neu gwmni newydd mawr â photensial twf uchel.
Ecwiti Preifat Foresight
Yn galluogi pob economi i ffynnu
Am yn agos at bedwar degawd, rydym wedi partneru â chwmnïau twf – ar draws pob sector, cam a mathau o drafodion – trwy gylchoedd economaidd lluosog. Rydym yn darparu mwy na buddsoddiad ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r cwmnïau rydym yn eu cynorthwyo er mwyn iddynt allu cyflawni eu huchelgeisiau busnes. Trwy rannu mewnwelediad, cyfarwyddyd a chysylltiadau gweithrediadol rydym yn galluogi cwmnïau twf nid yn unig i gyflawni eu gweledigaeth, ond i effeithio'n gadarnhaol ar eu hardaloedd lleol a chreu'r swyddi o ansawdd uchel fydd yn pweru economi yfory.
Am beth rydyn ni’n chwilio
Rydyn ni’n buddsoddi mewn cwmnïau addawol o ran twf ym mhob sector ac ar bob cam yn eu datblygiad
O fuddsoddiadau cyfnod cynnar â gafael fasnachol, i gwmnïau aeddfed sy’n chwilio am gyfalaf i dyfu neu sy’n ystyried rhyddhau rhan o’u hecwiti, rydyn ni’n hyblyg. Rydyn ni’n caniatáu i gwmnïau sydd ar dwf i gyflawni eu hamcanion mewn ffordd gefnogol.
Cronfa i bob sector yw’r IFW, ac mae’n darparu buddsoddiadau ecwiti o hyd at £5 miliwn.
Mae’r IFW yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn busnesau sy’n gweithredu’n faterol, neu sy’n bwriadu gweithredu’n faterol ar draws Cymru gyfan.
Gwnewch ymholiad
Cwblhewch y ffurflen a bydd un o'n tîm yn cysylltu cyn gynted â phosibl.
Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).